Cyngor ynghylch gwersylla
Mae tanau mewn pebyll yn ymledu'n gyflym ac, yn aml, dim ond un fynedfa sydd ar gael, sy'n golygu ei bod yn ofynnol i chi fod yn arbennig o wyliadwrus er mwyn atal tân rhag cynnau.
- Gadewch o leiaf chwe metr o fwlch rhwng pebyll a charafannau, a sicrhewch nad ydynt wedi'u gosod yn agos at geir sydd wedi'u parcio, er mwyn lleihau'r risg y bydd tân yn ymledu.
- Peidiwch byth â defnyddio cyfarpar sy'n llosgi tanwydd y tu mewn i babell (e.e. barbeciws tafladwy, stofiau gwersylla, gwresogyddion gwersylla, llusernau a griliau golosg). Am rhagor o wybodaeth am ymwybyddiaeth o Garbon Monocsid ewch i'n tudalennau gwybodaeth carbon monocsid.
- Dylid cadw hylifau fflamadwy a silindrau LPG y tu allan i'r babell.
- Nid yw defnyddio cyfarpar llosgi olew yn cael ei argymell.
- Peidiwch byth â chynnau canhwyllau na defnyddio unrhyw fath arall o gyfarpar sy'n cynnau fflam mewn pabell nac yn agos ati. Mae tortshis yn llawer mwy diogel.
- Coginiwch y tu allan ac yn ddigon pell o'r babell, cadwch gyfarpar coginio yn ddigon pell o ochrau'r babell a pheidiwch byth â choginio y tu mewn i babell fach nac yn agos at ddefnyddiau fflamadwy na glaswellt hir; gallant oll fynd ar dân yn hawdd.
- Peidiwch â smygu y tu mewn i'r babell a chadwch unrhyw ddefnydd fflamadwy yn ddigon pell o'r ardal goginio.
- Sicrhewch fod pawb yn gwybod y modd i ddiffodd dillad sydd ar dân – stopio, disgyn a rholio.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod y modd i ddianc os bydd tân trwy dorri eich ffordd allan o'r babell.
Lawrlwythwch
Lawrlwythwch ein ein llyfryn Diogelwch Tân Gwersylla (PDF, 855Kb)
Byddwch yn ymwybodol o garbon monocsid yr haf hwn
Ewch i'n tudalen Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid i gael mwy o wybodaeth