Er bod llawer ohonom yn mwynhau tywydd poeth, hoffem atgoffa pobl o'r ffyrdd y gallant gadw'n ddiogel ac yn oer.
Dyma restr o awgrymiadau yn ymwneud â chadw'n oer – ac yn ddiogel – yn yr haul.
- Yfwch ddigon o hylifau, dŵr os yn bosibl, i sicrhau bod y corff wedi'i hydradu. Osgowch alcohol, te a choffi gan y gall y rhain eich dadhydradu.
- Cadwch allan o'r haul rhwng 11:00 a 15:00 – adeg boethaf y dydd, pan fydd pelydrau'r haul ar eu cryfaf. Os ydych y tu allan, chwiliwch am gysgod.
- Ceisiwch beidio â gor-wneud pethau. Osgowch unrhyw weithgarwch egnïol, megis ymarfer corff a DIY – neu eu gwneud pan fydd y diwrnod ar ei oeraf, e.e. yn gynnar yn y bore neu'n hwyr fin nos.
- Gwisgwch ddillad llac, anadladwy, ynghyd â het os yw'n bosibl.
- Cymerwch gawodydd oer a thaflwch ddŵr oer ar eich wyneb yn rheolaidd i gadw tymheredd eich corff i lawr.
- Rhowch sylw arbennig i'r rheiny sy'n wynebu'r risg fwyaf, sef pobl oedrannus a phlant bach; sicrhewch eu bod yn gyfforddus ac yn cadw allan o'r haul gymaint â phosibl.
- Sicrhewch fod gan anifeiliaid anwes gyflenwad cyson o ddŵr ffres. Peidiwch â gadael iddynt fynd allan am gyfnodau hir, a pheidiwch byth â'u gadael mewn car.
- Yn olaf, gwisgwch ddigon o eli haul, a gorau po uchaf yw lefel y ffactor – gofynnwch i'ch fferyllydd am yr amddiffyniad gorau ar gyfer eich math chi o groen.
