Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn rhan o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ers sawl blwyddyn, yn cefnogi'r broses o gyflenwi darpariaeth Gwaith Ieuenctid ein Gwasanaeth ar ffurf ein Cynlluniau Cadetiaid Tân



Bwriad y cynllun gwirfoddolwyr yw cynyddu'n sylweddol nifer yr unigolion sy'n gwirfoddoli, a hynny trwy ddatblygu rolau sy'n fuddiol i'r naill ochr a'r llall. Yn ei dro, bydd pob gwirfoddolwr yn cael profiad sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o'r foment y bydd yn ymgysylltu â ni i'r foment y bydd yn gadael.

Croesewir gwirfoddolwyr o bob cefndir, a gallant ymgymryd ag amrywiaeth o rolau i fynd i'r afael ag anghenion y Gwasanaeth a'r gymuned. Byddwn yn adolygu portffolio ein rolau gwirfoddoli mewnol yn barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn amrywiol, yn gynhwysol ac yn hygyrch i'n poblogaeth amryfath.



Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni:

Byddwn yn rhoi disgrifiad clir o'ch rôl i chi;

Byddwch yn mynd i sesiwn gynefino y gwasanaeth ac yn cael hyfforddiant perthnasol;

Bydd eich barn a'ch adborth yn cael eu clywed er mwyn llunio ein cynllun gwirfoddolwyr;

Byddwn yn eich trin â pharch, ystyriaeth a gwerthfawrogiad;

Byddwch yn cael cyfleoedd i dyfu a datblygu yn eich rôl;

Awyrgylch cyfeillgar gyda staff sydd wedi'u hyfforddi i gefnogi gwirfoddolwyr;

Bydd eich ymrwymiad yn cael ei gydnabod a'i ddathlu.

 

Yr hyn yr ydym yn ei ofyn gennych chi:

Byw ein Gwerthoedd a bod yn llysgennad dros y gwasanaeth;

Trin pawb yn deg ac â pharch;

Dilyn canllawiau, polisïau a gweithdrefnau ein gwasanaeth;

Cymryd rhan yn yr hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer y rôl;

Rhoi adborth i ni a'n helpu i wella'n barhaus yr hyn yr ydym yn ei wneud;

Parchu cyfrinachedd y gwasanaeth, ein staff a defnyddwyr y gwasanaeth.

Byddwch yn Hyfforddwr Cadetiaid Tân Gwirfoddol
Trosglwyddwch eich gwybodaeth a'ch sgiliau i'r genhedlaeth iau. Helpwch nhw i feithrin profiadau, gwybodaeth a sgiliau newydd er mwyn cwblhau eu BTEC Lefel 2 mewn diogelwch rhag tân yn y gymuned.

Arwr Swyddfa
Gwnewch ddefnydd da o'ch sgiliau wrth i chi gwrdd â phobl newydd a meithrin sgiliau newydd.

Gwirfoddolwr Gorsaf Cymunedol
Ein llygaid a'n clustiau! Helpwch ni i rannu'r hyn y gall y Gwasanaeth Tân ei ddarparu â'r gymuned. Helpwch gyda diwrnodau agored yr orsaf, tasgau gweinyddol a digwyddiadau cymunedol lleol yn eich ardal. Helpwch ni i fod yn ganolbwynt eich cymuned.

Codwch arian gyda ni ac ar ein cyfer
Helpwch yn ein digwyddiadau codi arian ar gyfer elusen y Diffoddwyr Tân, neu cynhaliwch eich digwyddiad codi arian eich hun.

Cefnogwch ni yn ein digwyddiadau ledled y gwasanaeth, er enghraifft yn ystod y Sioe Frenhinol ayyb.

Croesewir gwirfoddolwyr o bob cefndir sydd dros 16 oed, a gallant ymgymryd ag amrywiaeth o rolau i fynd i'r afael ag anghenion y Gwasanaeth a'r gymuned. Byddwn yn adolygu portffolio ein rolau gwirfoddoli mewnol yn barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn amrywiol, yn gynhwysol ac yn hygyrch i'n poblogaeth amryfath.

Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu capasiti ein Gwirfoddolwyr sy'n gwirfoddoli gyda'r gwasanaeth er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu rôl i ateb y galw. Os bydd gennym ddigon o wirfoddolwyr, mae'n bosibl y cewch eich rhoi ar y rhestr aros.

Os ydych yn cael budd-daliadau, bydd angen i chi roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau am eich gweithgareddau gwirfoddoli.

Gofynnir i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais i Wirfoddoli gyda'r gwasanaeth, a fydd wedyn yn cael ei phrosesu gan ein cydlynydd Gwirfoddolwyr. Bydd y cydlynydd Gwirfoddolwyr cymunedol yn cynnal ymgynghoriad dros y ffôn/wyneb yn wyneb er mwyn darganfod mwy amdanoch chi a'ch diddordebau o ran Gwirfoddoli.

Bydd gwiriad DBS yn ofynnol ar gyfer pob rôl wirfoddoli. Gofynnir hefyd am eirdaon yn rhan o'r weithdrefn gynefino. Bydd angen i bob gwirfoddolwr gwblhau sesiwn gynefino y gwasanaeth cyn dechrau gwirfoddoli.



I gael gwybodaeth am Wirfoddoli gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ebostiwch y tîm Gwirfoddoli neu rhowch alwad ar 0370 6060 699