Diogelwch Hydref



Yn y Cartref




Rydym am annog pob cartref i wneud gwiriadau diogelwch sylfaenol yn eu cartrefi i leihau'r risg o danau. Cofiwch brofi eich larymau mwg yn rheolaidd a gosod o leiaf un larwm ar bob lefel yn eich cartref. Os oes gennych dân agored neu stôf losgi coed yn eich cartref, mae'n bwysig cynnal ffliwiau a simneiau yn iawn. Bydd rhoi gwasanaeth rheolaidd i'ch system gwres canolog hefyd yn lleihau'r risg o wenwyn carbon monocsid (CO). 



Yn y Cartref



Rydym am annog pob cartref i wneud gwiriadau diogelwch sylfaenol yn eu cartrefi i leihau'r risg o danau. Cofiwch brofi eich larymau mwg yn rheolaidd a gosod o leiaf un larwm ar bob lefel yn eich cartref. Os oes gennych dân agored neu stôf losgi coed yn eich cartref, mae'n bwysig cynnal ffliwiau a simneiau yn iawn. Bydd rhoi gwasanaeth rheolaidd i'ch system gwres canolog hefyd yn lleihau'r risg o wenwyn carbon monocsid (CO). 

More Information

Diogelwch Canhwyllau

Diogelwch Carbon Monocsid

Coginio'n Ddiogel

Diogelwch Trydanol

Cynnal a Chadw Larymau Mwg a Phroblemau





Diogelwch yn yr Ardd



Mae misoedd yr hydref yn gyfle perffaith i orffen unrhyw brosiectau garddio a ddechreuwyd gennych dros yr haf. Efallai eich bod wedi casglu gwastraff gardd yn y gobaith y gallwch ei losgi pan fydd y tywydd yn sych neu ddim ond eisiau ymlacio a thanio'r chiminea yn yr ardd ar noson oerach. Y naill ffordd neu'r llall, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein cyngor diogelwch ar sut i gadw'n ddiogel yn eich gardd yr Hydref hwn.

More Information

Cyngor Diogelwch Chiminea

Llosgyddion Gardd

Cyngor Diogelwch Pyllau Tân



Diogelwch Myfyrwyr



P'un a ydych chi'n fyfyriwr newydd sy'n symud i lety anghyfarwydd newydd neu eisoes yn fyfyriwr sy'n dychwelyd i'ch llety ar ôl gwyliau'r haf, mae angen i chi ystyried eich diogelwch a chymryd peth amser i feddwl am yr hyn y gellir ei wneud i amddiffyn eich hun a'ch cyd-letywyr rhag peryglon tanau a pheryglon eraill.

More Information

Diogelwch Myfyrwyr





Calan Gaeaf



Mae Calan Gaeaf yn gyfle i wisgo gwisg ffansi, cerfio pwmpenni, adrodd straeon brawychus ac wrth gwrs, y 'losin neu lanast' blynyddol gyda theulu a ffrindiau. Rydym am i chi a'ch teulu fwynhau Calan Gaeaf yn ddiogel trwy dynnu sylw at rai o'r peryglon posibl a'r hyn y gellir ei wneud i leihau'r risg y Calan Gaeaf hwn.

More Information

Diogelwch Calan Gaeaf



Diogelwch Dŵr



Byddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bob amser yn argymell y dylai pobl fynd i arddangosfa tân gwyllt wedi'i threfnu. Fodd bynnag, rydym yn deall y bydd rhai pobl eisiau cael eu harddangosfa tân gwyllt preifat eu hunain, ac er ein bod am i bobl fwynhau eu hunain, gofynnwn i bawb feddwl sut y gallan nhw gadw Cymru'n ddiogel y Noson Tân  Gwyllt hon.

More Information

Diogelwch Coelcerthi a Thân Gwyllt





Cefn Gwlad



Byddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bob amser yn argymell bod pobl yn mynychu arddangosfa tân gwyllt wedi'i threfnu. Helpwch i gadw'n ddiogel, trwy ddilyn y cod tân gwyllt, trwy ddilyn y cyfarwyddiadau'n ofalus a thrwy sicrhau eich bod yn dilyn y pellter lleiaf ar gyfer y tân gwyllt rydych chi'n ei ddefnyddio.

More Information

Diogelwch Tân Gwyllt