Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn lansio ei ymgyrch '12 Diwrnod o Negeseuon Diogelwch Nadolig' er mwyn rhannu negeseuon Nadoligaidd a chyngor diogelwch hanfodol ym mis Rhagfyr – wedi’u cyflwyno gan #GwiweryGwasanaeth.
Wrth i'r Nadolig nesáu, gall y nosweithiau oerach a’r costau ynni uwch olygu bod mwy a mwy o aelwydydd yn defnyddio gwresogwyr cludadwy, canhwyllau, a goleuadau addurniadol. Ac er bod y rhain yn cynhesu ac yn disgleirio, maen nhw hefyd yn cynyddu'r risg o danau ac o ddamweiniau. Mae GTACGC eisiau helpu teuluoedd i gael Nadolig diogel a dedwydd.
Gan ddechrau ddydd Gwener, 12 Rhagfyr, bydd #GwiweryGwasanaeth yn rhannu 12 awgrym diogelwch hanfodol ar Facebook ac Instagram ar lawer o themâu, gan gynnwys:
- Diogelwch Tân yn y Cartref
- Diogelwch Tân Trydanol
- Diogelwch wrth Goginio
- Diogelwch Canhwyllau
- Ymwybyddiaeth o Yfed a Gyrru
Dywedodd Peter Greenslade, Pennaeth Corfforaethol Risg Gymunedol: