Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Os ydych chi'n byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rydyn ni'n cynnig y cyfle i gael Ymweliad Diogel ac Iach yn eich cartref. Maent yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb. Ewch yma i weld y rhestr lawn o'n Gorsafoedd Tân a'r ardal rydyn ni'n ei gwasanaethu.
Os ydych yn byw yng Nghymru ond nid yn ardal ein gwasanaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru neu Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Mae'r ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys popeth a oedd yn rhan o'r gwiriadau diogelwch tân yn y cartref ond mae'n cynnwys negeseuon diogelwch eraill hefyd a all fod yn berthnasol i'r bobl sy'n byw yn yr eiddo. Bydd y pum prif neges ychwanegol yn ymwneud â'r canlynol:
- Rhoi'r gorau i ysmygu
- Diogelwch y cartref
- Atal cwympo
- Ymwybyddiaeth o sgamiau
- Mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd