Profion Gallu Diffoddwyr Tân

Mae’r Prawf Gallu yn cael ei gynnal yn unol â Phrawf Cenedlaethol y Diffoddwyr Tân a’r Prawf Dethol Cenedlaethol. Mae’r Prawf hwn wedi cael ei gynllunio i amlygu eich addasrwydd ar gyfer rôl Diffoddwr Tân.



Mae’r Prawf Gallu yn cael ei gynnal yn unol â Phrawf Cenedlaethol y Diffoddwyr Tân a’r Prawf Dethol Cenedlaethol. Mae’r Prawf hwn wedi cael ei gynllunio i amlygu eich addasrwydd ar gyfer rôl Diffoddwr Tân.

Cliciwch ar deitlau'r profion isod i gael mynediad at gwestiynau ymarfer (nid yw'r cwestiynau ymarfer ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd):



Rhesymu Rhifol

Prawf Ymarfer Rhesymu Rhifol 
18 munud ac amser ychwanegol os yw'n berthnasol

Mae'r prawf hwn yn mesur eich gallu i ddeall, i ddehongli, ac i werthuso gwybodaeth rifol mewn ffordd resymegol. Byddwch yn cael graffiau, siartiau a manylion rhifol, a bydd angen ichi wneud cyfrifiadau yn seiliedig ar yr wybodaeth a gyflwynwyd. 



Rhesymu Mecanyddol

Prawf Ymarfer Rhesymu Mecanyddol 
17 munud ac amser ychwanegol os yw'n berthnasol

Mae Diffoddwyr Tân angen datrys problemau ymarferol wrth eu gwaith. Mae'r prawf hwn yn mesur eich gallu i ddefnyddio egwyddorion mecanyddol cyffredinol er mwyn datrys problemau ymarferol. Byddwch yn gweld cyfres o ddiagramau, a bydd angen ichi ateb cwestiynau i ddangos eich dealltwriaeth o'r egwyddorion mecanyddol perthnasol.



Rhesymu Llafar

Prawf Ymarfer Rhesymu Llafar 
15 munud ac amser ychwanegol os yw'n berthnasol

Mae'r prawf hwn yn mesur eich gallu i werthuso, i resymu, ac i greu dealltwriaeth gysyniadol o eiriau a brawddegau. Byddwch yn cael cyfres o ddarnau a bydd gofyn i chi ateb cwestiynau sy'n egluro eich dealltwriaeth o'r hyn a gyfathrebir ynddynt.