Recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad

RYDYM YN RECRIWTIO DIFFODDWYR TÂN AR ALWAD LEDLED CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU I HELPU I YMATEB I ARGYFYNGAU A CHADW EIN CYMUNEDAU LLEOL YN DDIOGEL

Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad

Mae tua 75% o'n Gorsafoedd Tân yn cael eu staffio'n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad, sy'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddiogelu ein trefi, ein pentrefi a'n cymunedau gwledig.

Fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, byddwch yn ymateb i amrywiaeth eang o argyfyngau, gan gynnwys:

  • Tanau
  • Gwrthdrawiadau ar y Ffordd
  • Digwyddiadau llifogydd
  • Achub anifeiliaid
  • Digwyddiadau meddygol
  • Digwyddiadau achub a gwasanaethau arbennig eraill

Byddwch hefyd yn helpu i gadw eich cymuned yn ddiogel trwy addysgu a gwneud gwaith atal ac ymweliadau Diogel ac Iach.  Yn ogystal ag ymateb i argyfyngau, byddwch yn cael hyfforddiant cynhwysfawr, yn datblygu sgiliau bywyd gwerthfawr ac yn dod yn rhan o dîm clòs. 

Swydd sy'n Gyd-fynd â'ch Bywyd Chi

Mae ein Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn dod o bob cefndir a phroffesiwn.

Maent yn byw neu'n gweithio’n agos at eu Gorsaf Dân leol ac yn rhoi darpariaeth frys pan fyddant ar gael i fod ar ddyletswydd.  P'un ai ydych chi'n hunangyflogedig, yn gweithio oriau hyblyg, yn rhiant neu'n ofalwr, neu'n chwilio am ffordd werth chweil o gyfrannu at eich cymuned, gallai dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad fod yn opsiwn i chi.

Pan ddaw galwad argyfwng, mae diffoddwyr tân yn cael eu rhybuddio drwy beiriant galw, ac maen nhw’n ymateb i'r orsaf.  Mae llawer yn cydbwyso eu rôl gyda gwaith arall, ymrwymiadau teuluol neu astudio, gyda rhai cyflogwyr yn cefnogi staff i ymateb i argyfyngau yn ystod oriau gwaith.

Yn ogystal ag ymateb i argyfyngau, mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gadw eu cymunedau'n ddiogel.  Maent yn cymryd rhan mewn hyfforddiant, gweithgareddau atal ac ymgysylltu â'r gymuned, gan ddatblygu sgiliau gwerthfawr yn ogystal â gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl eraill.

Ymunwch â noson ymarfer eich Gorsaf Dân leol

Y ffordd orau o ddysgu am y rôl yw ei phrofi drosoch eich hun.

Ymunwch â noson ymarfer wythnosol eich Gorsaf Dân leol i gwrdd â'r criw, gwylio’r gweithgareddau hyfforddi a darganfod sut y gallech wneud gwahaniaeth yn eich cymuned fel Diffoddwr Tân Ar Alwad.

Argaeledd hyblyg a thâl cystadleuol

Yn ddiweddar, rydym wedi cyflwyno system bandiau argaeledd a chyflog newydd, sy'n cydnabod yr angen i gydbwyso gwaith a bywydau personol ac yn cynnig opsiynau mwy hyblyg i'r rhai sydd â diddordeb mewn dod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

Mae ein System Criwio Ar Alwad yn cynnig y canlynol:

  • Ymrwymiad hyblyg: Gallwch wasanaethu eich cymuned wrth gynnal swydd arall, ffordd o fyw neu gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
  • Iawndal: Enillwch arian am hyfforddiant, driliau a galwadau allan, ynghyd â thâl cadw blynyddol.
  • Datblygiad personol: Datblygwch sgiliau gwerthfawr mewn ymateb i argyfyngau a chael mynediad at hyfforddiant a thystysgrifau proffesiynol.
  • Dilyniant gyrfa: Gallai hwn fod yn gam cyntaf i chi yn eich gyrfa Diffodd Tân Amser Llawn neu rolau gwasanaethau brys eraill.

Nid yw diffodd tân yn debyg i unrhyw swydd arall, gall fod yn gyffrous, yn foddhaol ac yn anrhagweladwy.  Daw boddhad a pharch wrth ddarparu gwasanaeth hanfodol i'ch cymuned leol.

Cewch hanes rhai o'n Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn uniongyrchol:

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.