Rheolwr Ardal B
Cyflog – £67,792 - £74,360 (Lwfans Dyletswydd Hyblyg o 20% a Lwfans Dyletswydd Barhaus o 12%) + buddion rhagorol
Lleoliad – Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am Reolwr Ardal B ysbrydoledig a blaengar i ymuno â’n Tîm Arweinyddiaeth Weithredol. Mae hwn yn gyfle prin I chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol un o Wasanaethau
Tân ac Achub mwyaf uchel eu parch y DU.
Fel Rheolwr Ardal, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws eich portffolio, gan sicrhau bod ein pobl, ein hadnoddau a’n partneriaethau wedi’u halinio i gyflawni rhagoriaeth i’r cymunedau a wasanaethwn. Byddwch yn arweinydd gweladwy
sy’n cael ei yrru gan werthoedd, yn gallu gweithredu ar y lefelau uchaf o orchymyn, tra hefyd yn gyrru arloesedd, cydweithio a gwelliant parhaus.
Rydym yn chwilio am arweinydd sydd:
- Yn dod â hanes profedig o arweinyddiaeth strategol
- Yn gallu dylanwadu ar ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid
a chydweithio â nhw
- Wedi ymrwymo i gyflawni perfformiad uchel, diwylliant
cynhwysol, a thrawsnewid gwasanaeth
- Yn gallu arwain yn ystod digwyddiadau mawr a chyfrannu
at fentrau cenedlaethol a rhanbarthol
- Yn gallu ysbrydoli a grymuso timau i gyflawni yn ôl nodau uchelgeisiol
Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio a chyflawni strategaethau cyflwyno’r Gwasanaethau yn y dyfodol, gan sicrhau bod ein pobl yn cael eu cefnogi, bod ein cymunedau yn cael eu diogelu, a bod ein sefydliad yn parhau i esblygu i ymdopi â heriau sy’n dod i’r amlwg.
Dyma eich cyfle i arwain gydag uniondeb, gyrru newid ystyrlon, a chael effaith barhaol ar draws canolbarth a gorllewin Cymru. I gael gwybod mwy a sut i wneud cais, ewch i Penna | Jobs neu am drafodaeth anffurfiol am y rôl gyffrous hon, cysylltwch â chydweithiwr ein partner, Fizza Islam, ar Executive@LHH.com neu 0141 220 6460.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos, nos Fercher 5 Tachwedd 2025.
Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr