18.04.2024

30 Mlynedd o Wasanaeth Cyfun yng Ngorsaf Dân Tregaron

Mae dau Ddiffoddwr Tân yng Ngorsaf Dân Tregaron wedi derbyn gwobrau gwasanaeth hir yn ddiweddar am eu hymroddiad a’u gwasanaeth parhaus i’w cymuned leol, gyda chyfanswm cyfunol o 30 mlynedd o wasanaeth.

Gan Lily Evans

Mae’r Rheolwr Criw, Meilyr Hughes, wedi nodi 20 mlynedd o wasanaeth, tra bod y Diffoddwr Tân Gareth Jones yn nodi 10 mlynedd.

Wrth gyflwyno’r ddau gyda’u tystysgrifau gwasanaeth hir, dywedodd Cadlywydd yr Orsaf, Danny Bartley:

“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iddynt am eu cyfraniad a’u gwasanaeth i’r gymuned leol. Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad go iawn i ddiogelwch cymuned Tregaron ac rydym yn hynod o ddiolchgar iddynt am eu gwasanaeth parhaus.”

Cadlywydd yr Orsaf Danny Bartley gyda'r Rheolwr Criw Meilyr Hughes.

Cadlywydd yr Orsaf Danny Bartley gyda'r Diffoddwr Tân Gareth Jones.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf