03.04.2024

60 Mlynedd o Wasanaeth Cyfun yng Ngorsaf Dân Llanbedr Pont Steffan

Ddydd Mawrth, Ebrill 2ail, cyflwynwyd tystysgrifau i dri Diffoddwr Tân o Orsaf Dân Llanbedr Pont Steffan am 20 mlynedd o ymroddiad a gwasanaeth i’r gymuned leol.

Gan Lily Evans



Ddydd Mawrth, Ebrill 2ail, cyflwynwyd tystysgrifau i dri Diffoddwr Tân o Orsaf Dân Llanbedr Pont Steffan am 20 mlynedd o ymroddiad a gwasanaeth i’r gymuned leol.

Gyda chyfanswm cyfunol o 60 mlynedd o wasanaeth cafodd y Rheolwr Gwylfa Aled Morgan a’r Diffoddwyr Tân Huw Rowcliffe a Glyn Jones wobrau gwasanaeth hir gan Gadlywydd yr Orsaf Danny Bartley.

Wrth gyflwyno’r gwobrau yn ystod noson ymarfer yr Orsaf, dywedodd Cadlywydd yr Orsaf Bartley:

“Hoffwn longyfarch Aled, Huw a Glyn ar eu cyflawniadau rhyfeddol, mae heno yn cynrychioli carreg filltir yn eu gyrfaoedd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i ddiogelwch eu cymuned leol.”

 Station Commander Danny Bartley and Watch Manager Aled Morgan.


Cadlywydd yr Orsaf Danny Bartley a'r Rheolwr Gwylfa Aled Morgan.

 Station Commander Danny Bartley and Firefighter Huw Rowcliffe.


Cadlywydd yr Orsaf Danny Bartley a'r Diffoddwr Tân Huw Rowcliffe.

 Station Commander Danny Bartley and Firefighter Glyn Jones.


Cadlywydd yr Orsaf Danny Bartley a'r Diffoddwr Tân Glyn Jones.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf