Prif Ganfyddiadau ac Argymhellion
Mae'r adolygiad annibynnol yn tynnu sylw at lwyddiannau a meysydd ar gyfer twf, gan ddarparu map ffordd ar gyfer gwella diwylliant sefydliadol a lles staff. Mae'r canfyddiadau'n tanlinellu ymdrechion parhaus y gwasanaethau tân ac achub i sicrhau bod eu gweithleoedd yn adlewyrchu gwerthoedd diogelwch, cynhwysiant a gwasanaeth cymunedol.
Dywedodd Prif Swyddog Tân Gogledd Cymru, Dawn Docx:
“Mae ein staff wedi gofyn am newid, ac rydym yn gwrando. Rydym yn gwerthfawrogi eu dewrder wrth ddarparu adborth gonest. Maen nhw wedi cydnabod y gwelliannau sydd eisoes wedi'u gwneud ond yn adlewyrchu bod gennym ni dipyn o ffordd i fynd.
Mae'r adolygiad hwn yn nodi trobwynt i ni ac rwyf yn ymddiheuro i’r rhai sydd heb gael profiad da - mae pawb yn haeddu teimlo eu bod yn cael eu clywed, yn ddiogel, ac yn cael eu gwerthfawrogi yn eu gweithle.
Rydym yn adolygu'r adroddiad yn fanwl ac yn troi argymhellion yn gamau mesuradwy. Mae hyn yn cynnwys sefydlu llinell gymorth gyfrinachol a dod ag arbenigwr datblygu arweinyddiaeth i mewn. Mae newid yn dechrau nawr, ac rydym yn addo gwella a chyflymu y cynnydd yma. Rwy'n derbyn y canfyddiadau yn yr adroddiad ac rwy'n benderfynol y gallwn, drwy gydweithio ar draws ein sefydliad, gryfhau ein diwylliant yn y gweithle a darparu'r gwasanaeth gorau i'n cymunedau.
Hoffwn bwysleisio nad yw'r adroddiad hwn yn codi amheuon am y gwasanaethau a ddarparwn i'r cyhoedd - mae mwyafrif helaeth ein staff yn bobl wirioneddol broffesiynol sy'n darparu gwasanaeth gwych i'r cyhoedd ledled Gogledd Cymru.
Mae ein staff yn ymateb i ddiogelu'r cyhoedd, o ddydd i ddydd, gyda charedigrwydd a pharch - ac mae canfyddiadau'r adroddiad hwn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gwella sut rydym yn trin ein gilydd gyda charedigrwydd a pharch."
Ychwanegodd Prif Swyddog Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas KFSM:
“Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll, hoffwn ymddiheuro i unrhyw un o'm cydweithwyr sydd wedi profi bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu ar unrhyw ffurf. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac nid yw'n cyd-fynd â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau yr ydym yn eu harddel neu'n eu cymeradwyo fel Gwasanaeth.
Yn ail, rwy'n derbyn y canfyddiadau a'r argymhellion yn yr adolygiad sy'n cefnogi fy uchelgais i wella diwylliant ein Gwasanaeth, a oedd yn un o fy nodau allweddol pan gefais fy mhenodi'n Brif Swyddog Tân. Er ein bod yn amlwg wedi gwneud cynnydd i fynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r un mor amlwg bod angen i ni wneud mwy i sicrhau bod ein staff yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.
Trwy fentrau fel ein Bwrdd a Gweithgor Diwylliant a Chynhwysiant a'u cynlluniau gweithredu cysylltiedig, rydym eisoes yn adeiladu momentwm tuag at sefydliad mwy cynhwysol, amrywiol a chefnogol.
Mae'r adolygiad hwn bellach yn rhoi argymhellion clir i ni i lywio gwelliannau yn ein diwylliant a'n hamrywiaeth yn y dyfodol.”