Mae'r prosiect, a ddechreuodd ym mis Mehefin 2025, wedi bod yn ymdrech ar y cyd rhwng Diffoddwyr Tân y Trallwng, Rheolwr Cynaliadwyedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Lywodraeth Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus, sydd wedi cynorthwyo gyda threfnu, cynllunio ac adeiladu'r ardd. Mae'r gymuned leol hefyd wedi bod yn rhan hanfodol o sefydlu'r ardd, gyda thrigolion Neuadd Maldwyn, datblygiad byw â chymorth gyferbyn â'r Orsaf Dân, yn cynorthwyo gyda phlannu planhigion yn yr ardd.
Wedi'i chynllunio i fod yn gwbl hygyrch, mae Gardd Gymunedol Gorsaf Dân y Trallwng yn cynnwys gwelyau uchel, meinciau a thŷ gwydr a'i nod yw rhoi cyfleoedd i'r rhai sydd heb lefydd eu hunain yn yr awyr agored i blannu a thyfu ffrwythau, llysiau a blodau. Bydd offer, cyfarpar a hadau ar gael i aelodau’r gymuned sydd eisiau cymryd rhan a defnyddio’r ardd.
Rhwng 10yb ac 1yp ddydd Iau, 12 Chwefror, gwahoddir aelodau o'r gymuned leol i Orsaf Dân y Trallwng am fore coffi i agor yr ardd gymunedol yn swyddogol ac i ddysgu mwy am fentrau Diogelwch Tân Cymunedol GTACGC.
Lleoliad: Gorsaf Dân y Trallwng
Cyfeiriad: Ffordd Hafren, Y Trallwng, Powys, SY21 7AR