Cychwynnodd Rebecca a Georgina – neu Angylion Tân yr Antarctig, fel maen nhw’n cael eu hadnabod – ar eu hantur ar ddechrau Tachwedd 2023 gan gyrraedd pen eu taith ar Ionawr 12 2024. Maen nhw wedi cerdded a sgïo dros 1,200km mewn 52 diwrnod, o arfordir Antarctica i Begwn y De – sy’n cyfateb i 29 marathon!
Angylion Tân yr Antarctig yw’r bobl gyntaf erioed i gwblhau’r llwybr yr oedden nhw wedi’i ddewis ac nid oedd unrhyw un yn eu tywys na’u cynorthwyo wrth iddyn nhw dynnu eu cyflenwadau eu hunain a’u slediau offer – pob un yn pwyso dros 100kg. Yn ogystal â chwmpasu’r pellter anhygoel hwn, maen nhw wedi gorfod dioddef amodau eithafol y lle oeraf ar y Ddaear – gyda’r tymheredd yn cyrraedd mor isel â -30°C a chyflymder gwynt o hyd at 60mya.
Cymerodd eu hantur dros bedair blynedd o gynllunio a hyfforddi gofalus, ac un o’r prif nodau oedd herio stereoteipiau rhywedd ac ysbrydoli cenedlaethau o fenywod yn y dyfodol.