22.11.2024

Angylion Tân yr Antarctig yn Cwblhau Her Enfawr Arall

Yn dilyn eu hantur lwyddiannus i Begwn y De y llynedd, mae dwy Angel Tân yr Antarctig bellach wedi llwyddo i gwblhau 7 marathon ar 7 diwrnod yn olynol yn gwisgo cit diffodd tân llawn a setiau offer anadlu.

Gan Lily Evans



Yn dilyn eu hantur lwyddiannus i Begwn y De y llynedd, mae dwy Angel Tân yr Antarctig bellach wedi llwyddo i gwblhau 7 marathon ar 7 diwrnod yn olynol yn gwisgo cit diffodd tân llawn a setiau offer anadlu.

Mae Bex a George – a elwir hefyd yn Angylion Tân yr Antarctig (AFA), yn hen gyfarwydd â heriau sy’n torri tir newydd oherwydd yn gynharach eleni fe fu’r ddwy ar antur ryfeddol yn yr Antarctig.  Fe gerddon nhw dros 1,200km mewn 52 diwrnod, o arfordir Antarctica i Begwn y De – pellter sy’n cyfateb i 29 marathon. Nhw oedd y bobl gyntaf erioed i gwblhau'r llwybr yr oedden nhw wedi’i ddewis ac roedd eu hantur yn un heb arweiniad na chymorth gan neb arall, a hwythau’n tynnu eu slediau offer a chyflenwadau eu hunain – pob un ohonynt yn pwyso dros 100kg.

 Firefighter Rebecca Openshaw-Rowe, The Great World Race
 Firefighter Georgina Gilbert, The Great Counties Race


Ar gyfer eu her ddiweddaraf, fe deithiodd y Diffoddwr Tân Rebecca Openshaw-Rowe o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar draws 7 cyfandir – yn yr hyn a elwir yn Ras Fawr y Byd. Cwblhaodd ei phartner yn Angylion Tân yr Antarctig, y Diffoddwr Tân Georgina Gilbert o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ei 7 marathon mewn 7 sir yn y Deyrnas Unedig. 

Wrth siarad am yr her, dywedodd y Diffoddwr Tân Rebecca Openshaw-Rowe o Orsaf Dân Port Talbot:

"Mae mor bwysig i ni fod yn weladwy fel menywod sy’n ddiffoddwyr tân a pharhau i helpu i newid naratif yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ferch. Mae Ras Fawr y Byd yn rhoi cyfle i ni fynd â’n neges ar draws y byd.”



Mae Rebecca a Georgina yn esiamplau gwych i fenywod a merched ddilyn gyrfa ym mha bynnag faes y maent yn ei ddewis ac maent wedi darparu cyngor a chymorth i fenywod sy'n mynd drwy'r broses recriwtio diffoddwyr tân.

Mae pawb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn llongyfarch Rebecca a Georgina ar eu llwyddiant anhygoel.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf