Dywedodd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas KFSM:
“Roeddwn yn falch iawn o glywed bod ein cyn gydweithiwr, Steve Amor, wedi derbyn MBE fel rhan o Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.
Yn ystod ei yrfa hir a disglair yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, gweithiodd Steve yn ddiflino i gefnogi ei gymuned leol nid yn unig fel rhan o’r Gwasanaeth Tân ac Achub ond hefyd fel Cyd-Ymatebydd Meddygol yn cefnogi Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae Steve hefyd wedi cefnogi nifer o grwpiau gwirfoddol yn ardal Llanwrtyd ac felly mae'n dderbynnydd teilwng o'r wobr fawreddog hon.
Ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n estyn ein llongyfarchiadau mawr i Steve.”