06.03.2025

Ap GoodSAM - Galw pob ymatebydd

Galw pob ymatebydd - Bywyd pwy allwch chi ei achub heddiw?

Gan Lily Evans


Dim ond tua 10% o’r rhai sy’n cael ataliad ar y galon y tu allan i ysbyty sy’n goroesi. Mae hyn yn codi i hyd at 30% pan fydd CPR yn cael ei weithredu’n gyflym gan rywun cyfagos ac mae’n codi ymhellach i hyd at 70% pan ddefnyddir Diffibriliwr Allanol Awtomataidd (AED).

Mae’r ap GoodSAM yn galluogi Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i dynnu sylw ymatebwyr sy'n cofrestru'n wirfoddol at alwadau 999 pan fydd ataliadau ar y galon yn digwydd. Yng Nghymru yn unig, mae yna tua 20 digwyddiad y dydd.

Gall y gwahaniaeth y mae CPR cynnar a diffibriliad yn ei wneud fod yn hanfodol - dyna lle gallwch chi fod o gymorth.

Os ydych wedi'ch hyfforddi mewn cymorth cyntaf, lawrlwythwch Ap GoodSAM Responder heddiw. Yna cewch neges pan fydd rhywun yn cael ataliad ar y galon yn agos iawn atoch, fel y gallwch ddechrau CPR neu gymorth cyntaf sylfaenol yn y munudau tyngedfennol cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf