Ddydd Sadwrn 13 Medi, bydd y diffoddwr tân Rhys Fitzgerald o'n gwasanaeth yn ymuno â chydweithwyr o frigadau tân ledled y DU er mwyn dringo mynydd Ben Nevis.
Nid yn unig y byddan nhw’n dringo, byddan nhw’n gwneud hynny mewn cit diffodd tân trwm, gan wisgo'r legins a'r tiwnig amddiffynnol a ddefnyddir fel arfer mewn argyfwng. Bydd y pwysau a'r gwres ychwanegol yn gwneud pob cam yn fwy heriol, gan droi dringfa sydd eisoes yn anodd yn her eithafol, a hynny i gyd i godi arian hanfodol ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân ac i anrhydeddu cof diffoddwyr tân a fu farw.
Mae Rhys hefyd yn gobeithio y byddan nhw’n gosod record byd am y nifer fwyaf o ddiffoddwyr tân i ddringo copa Ben Nevis mewn cit diffodd tân mewn un digwyddiad. Os ydych chi'n ddiffoddwr tân yn y DU ac eisiau cymryd rhan, cysylltwch â Rhys drwy lenwi'r ffurflen gofrestru.
Sut allwch chi helpu:
- Ymunwch â'r ddringfa - mae croeso i ddiffoddwyr tân o bob cwr o'r DU gymryd rhan.
- Cyfrannwch - mae pob punt yn mynd i gefnogi diffoddwyr tân a'u teuluoedd ar adegau o angen.
Lledaenwch y gair, rhannwch y stori hon i ysbrydoli eraill.