Gan weithio’n aml mewn amgylchedd cyflym a heriol, yn 2023/24 roedd ein Hymladdwyr Tân Ystafell Reoli wedi ateb tua 162 o alwadau y dydd ar gyfartaledd, gan mai nhwythau yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer galwadau brys a galwadau nad ydynt yn ymwneud ag argyfwng ill ddau, gan ddelio’n fynych â sefyllfaoedd heriol dros ben.
Maent yn cael eu hadnabod gyda chynhesrwydd fel ‘arwyr mewn clustffonau’, ac mae ein Hymladdwyr Tân Rheoli yn delio ag ymholiadau ffôn cyffredinol, cymryd galwadau 999, a danfon yr adnoddau tân angenrheidiol i ddiwallu anghenion unrhyw ddigwyddiad.
Manteisiodd GTADC ar y cyfle i ymweld â’n Hystafell Cyd-reoli ar y Cyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i siarad â rhai o’r staff am eu rolau, a’r hyn sy’n achosi iddynt eisiau dod i’r gwaith a gwneud eu swyddi bob dydd.
Dywedodd Clare Walker sy’n Ddiffoddwr Tân Systemau’r Ystafell Gyd-reoli,: “Gall y rôl fod yn straen, ac mae rhai digwyddiadau yn aros yn eich cof, mae'n heriol achos dim ond modd clywed y digwyddiad sy gyda chi, heb weld beth sy'n digwydd, a gorfod aros am y neges ‘stopio’ i wybod y canlyniad – ond mae’n rhoi boddhad mawr ar yr un pryd.”
Yn rhinwedd y swydd mae’n ofynnol i Ymladdwyr Cyd-reoli Tân fod yn unigolion cadarnhaol a hyblyg sy'n gallu ymateb yn gyflym i sefyllfaoedd brys a blaenoriaethu tasgau i helpu pob aelod o'r gymuned.