Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rydym yn cyflogi dros 1,350 o aelodau staff ac yn gwasanaethu bron 12,000 cilomedr sgwâr - bron i ddwy ran o dair o Gymru.
Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.
Mae gweithio i'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fw...
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf #doethidanaugwyllt.
Mae gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân.
Dweiswch eich iaith : Choose your language:
12.06.2025
Mae gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sy'n helpu i gefnogi pobl o bob oed ledled Abertawe'n parhau i gael eu cryfhau, yn ôl adroddiad newydd.
Gan Rachel Kestin
Mae camau gweithredu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant lleol, gwarchod a hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol rhyfeddol a chryfhau cysylltiadau yn ein cymuned i gyd wedi helpu Abertawe i ddod yn lle da i fyw.
Gwyliwch y fideo yma
Andrea Lewis, dirprwy arweinydd ar y cyd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau sy'n cadeirio'r BGC yn Abertawe. Mae ei aelodau yn cynnwys cyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill fel y gwasanaeth tân ac achub, y bwrdd iechyd a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Meddai'r Cyng. Lewis:
"Mae ein hymrwymiad i wneud Abertawe'n lle tecach, gwyrddach, mwy diogel ac iachach wedi llywio popeth rydym yn ei wneud. Mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain. Mae gwasanaethau wedi dod yn fwy hygyrch, mae cymunedau wedi tyfu'n gryfach, ac mae cynaliadwyedd wrth wraidd y ffordd rydym yn gweithio. "O ehangu cefnogaeth i deuluoedd ifanc i ymgorffori hawliau dynol yn y ffordd rydym yn gwasanaethu ein cymunedau, mae eleni wedi dangos yr hyn sy'n bosib pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd. "Rydym yn falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni, a gwyddom fod mwy i'w wneud."
Mae'r cyflawniadau allweddol a amlygwyd yn adroddiad blynyddol y 2024/25 y BGC yn cynnwys y canlynol:
Meddai Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Is-gadeirydd y BGC:
"Mae ein cynnydd yn dyst i gryfder cydweithredu. "Drwy wrando ar ein cymunedau a gweithio ar draws asiantaethau, rydym wedi cyflawni canlyniadau go iawn y gall pobl eu gweld drostynt eu hunain. O alluogi teuluoedd ifanc i wneud dechrau da mewn bywyd i gefnogi mentrau sy'n lleihau allyriadau carbon, dyma sut rydym yn gwneud Abertawe'n gryfach."
Ychwanegodd:
"Gyda data cadarn, llywodraethu cryfach, ac egni o'r newydd ar gyfer newid, mae BGC Abertawe yn adeiladu momentwm i'r flwyddyn nesaf. Erys y ffocws yn glir: cyflawni cynnydd lle mae o'r pwys mwyaf i bobl Abertawe."
13.06.2025