Mae GTACGC yn falch o gyhoeddi ei gefnogaeth i Fis Cenedlaethol Dioddefwyr y Ffyrdd 2024 – ymgyrch flynyddol sy'n tynnu sylw at y nifer syfrdanol o bobl sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddiangen mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd y DU.
Nod yr ymgyrch, a drefnir gan RoadPeace, yr elusen genedlaethol ar gyfer dioddefwyr damweiniau ar y ffyrdd, yw codi ymwybyddiaeth am yr ystadegau canlynol:
- Bob dydd yn y DU, mae pump o bobl yn cael eu lladd ac mae tua 80 yn cael eu hanafu'n ddifrifol, ar gyfartaledd, mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd
- Ers i gofnodion ddechrau ym 1926, mae dros 500,000 o bobl wedi cael eu lladd mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn y DU - sy'n llawer mwy na'r 375,000 o ddinasyddion y DU a laddwyd oherwydd rhyfela yn ystod yr un cyfnod
- Mae gweithgarwch gyrru dyddiol arferol yn arwain at fwy o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU na llofruddiaeth a therfysgaeth gyda'i gilydd
- Yn 2022 yn unig, adroddwyd bod 1,766 o bobl wedi’u lladd a 141,560 o bobl wedi’u hanafu mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn y DU
Mae Mis Cenedlaethol Dioddefwyr y Ffyrdd, a sefydlwyd ym 1998 gan RoadPeace, hefyd yn cydnabod gwaith y gwasanaethau brys, sy'n ymateb i wrthdrawiadau ar y ffyrdd bob dydd, ac yn tynnu sylw at yr effaith feddyliol a chorfforol y mae gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ei chael arnynt.
Dywedodd Nick Simmons, Prif Weithredwr RoadPeace, yr elusen genedlaethol ar gyfer dioddefwyr gwrthdrawiadau ar y ffyrdd: