23.10.2025

Cyngor ar Ddiogelwch Tân adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) am eich cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni. 

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) am eich cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni. 

Gan weithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru, Awdurdodau Lleol ac asiantaethau partner eraill, ein nod yw creu amgylchedd mwy diogel i bawb adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, gan alluogi cymunedau i ddathlu'n gyfrifol ac yn ddiogel.

Wrth i ni edrych ymlaen at y dathliadau llawn bwganod, tân gwyllt disglair a thanau gwyllt fydd yn ein gwresogi, mae'n bwysig parhau i fod yn ymwybodol o'r risgiau diogelwch tân sy’n gysylltiedig â'r dathliadau hyn. Mae gan GTACGC gyngor diogelwch hanfodol i'r rhai sy'n dymuno dathlu'r ddau achlysur hyn:

Diogelwch Calan Gaeaf:

Er bod Calan Gaeaf yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc wisgo gwisgoedd gwisg ffansi, cerfio pwmpenni, a chynnal teithiau ‘losin neu lanast', mae hefyd yn dod â phryderon ynghylch diogelwch tân. Mae GTACGC wedi tynnu sylw at rai o'r peryglon posibl a'r hyn y gellir ei wneud i leihau'r risgiau, er mwyn sicrhau bod y gymuned yn mwynhau Calan Gaeaf yn ddiogel:

  • Diogelwch Gwisgoedd: Gwiriwch bob amser am farc 'CE' ar wisgoedd Calan Gaeaf er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni safonau diogelwch. Mae llawer o wisgoedd yn fflamadwy, felly osgowch fflamau agored. A yw eich canhwyllau yn eich peryglu chi a'ch cartref?
  • Dewisiadau yn lle Canhwyllau Defnyddiwch ganhwyllau LED heb fflam ar gyfer effaith codi ofn heb y risg o dân. Mae'r rhain yn fwy diogel i blant ac ni fyddant yn chwythu allan yn y gwynt. Os ydych chi'n dewis defnyddio canhwyllau, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gosod ymhell oddi wrth wrthrychau eraill, a pheidiwch byth â'u gadael heb oruchwyliaeth.
  • Goruchwyliaeth: Cadwch lygad barcud ar blant ar bwys canhwyllau ac addurniadau. Osgowch osod eitemau fflamadwy ger allanfeydd neu rodfeydd
  • Llwybrau Dianc: Gwnewch yn siŵr fod allanfeydd yn glir rhag ofn y bydd argyfwng - ni ddylai addurniadau byth rwystro llwybrau dianc.

Dywedodd Steven Davies, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

"Mae risgiau tân yn cynyddu yn ystod adeg Calan Gaeaf, yn enwedig gyda fflamau agored mewn pwmpenni a gwisgoedd fflamadwy. Mae’n bosibl na fydd rhai gwisgoedd ffansi’n cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân, dylech bob amser wirio am farc 'CE' ar wisgoedd ffansi. "Ystyriwch ddefnyddio canhwyllau LED yn hytrach na rhai go iawn a chadwch allanfeydd yn glir o addurniadau i helpu i sicrhau noson ddiogel a phleserus. Cofiwch bob amser, os yw eich dillad yn mynd ar dân - ARHOSA, DISGYNNA, RHOLIA."



Diogelwch Noson Tân Gwyllt:

Mae Noson Tân Gwyllt yn adeg i ddathlu, ond mae hefyd yn dod â risgiau diogelwch difrifol. Bob blwyddyn, mae GTACGC yn ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â thanau gwyllt anniogel a thân gwyllt sy’n cael eu camddefnyddio. Er mwyn eich helpu i fwynhau'r noson yn ddiogel, dyma rai awgrymiadau hanfodol:

  • Cynlluniwch eich arddangosfa tân gwyllt ymlaen llaw i'w wneud yn ddiogel ac yn bleserus, a gwiriwch yr amser y gallwch chi gynnau tân gwyllt yn gyfreithlon.
  • Prynwch gan adwerthwr ag enw da BOB AMSER a dilynwch gyfarwyddiadau tân gwyllt unigol - prynwch dân gwyllt â marc CE neu farc UKCA yn unig.
  • Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt (gan ddefnyddio tortsh os oes angen).
  • Cyneuwch y tân gwyllt â thapr ac o bellter hyd braich a safwch ymhell yn ôl.
  • Peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt wedi iddo gael ei gynnau.
  • Peidiwch â rhoi tân gwyllt mewn pocedi a pheidiwch byth â'u taflu.
  • Cyfeiriwch rocedi tân gwyllt ymhell oddi wrth wylwyr.
  • Peidiwch byth â defnyddio paraffin neu betrol ar goelcerth.
  • Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd a bod yr amgylchedd yn ddiogel ar ôl gorffen
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn storio tân gwyllt yn unol â'r cyfarwyddiadau a restrir; dylid storio tân gwyllt yn eu pecyn gwreiddiol mewn lle sych ymhell o ffynonellau gwres neu danio.
  • Storiwch dân gwyllt i ffwrdd oddi wrth blant ac anifeiliaid BOB AMSER.
  • Os yw eich dillad yn mynd ar dân - ARHOSA, DISGYNNA, RHOLIA.


Dywedodd y Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol Carl Williams:

“Traditionally Bonfire Night has a heavy impact on MAWWFRS and partner agencies despite annual warnings. Although it can be a fun and entertaining evening for all the family, fireworks and bonfires can pose serious safety risks. “We would always recommend that people attend an organised fireworks display as this is the safest option, however, we understand that some will want to host their own private displays. While we want people to enjoy themselves – we urge everyone to do this safely.”



Byddai GTACGC bob amser yn annog y cyhoedd i ddathlu'r ddwy noson yn y ffordd fwyaf diogel posibl, a thrwy ddilyn y canllawiau syml hyn, gallwch sicrhau bod Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn parhau i fod yn ddathliadau pleserus a diogel i bawb.

Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth am gadw'n ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ragor o negeseuon diogelwch.

Facebook - @mawwfire
Instagram - mawwfire_rescue

Erthygl Flaenorol