03.11.2025

Cynnal Cwrs Ffenics yng Ngorsaf Dân Llanbedr Pont Steffan

Yn ddiweddar, cymerodd disgyblion o Ysgol Henry Richard ac Ysgol Bro Teifi ran mewn cwrs Prosiect Ffenics yng Ngorsaf Dân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Llanbedr Pont Steffan.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar, cymerodd disgyblion o Ysgol Henry Richard ac Ysgol Bro Teifi ran mewn cwrs Prosiect Ffenics yng Ngorsaf Dân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Llanbedr Pont Steffan.

Rhaglen ymyrraeth a noddir gan Lywodraeth Cymru yw Prosiect Ffenics, sydd wedi'i hanelu at bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sydd â phroblemau sy'n gysylltiedig â than, megis galwadau ffug a llosgi bwriadol.  Gall pobl ifanc sydd naill ai wedi troseddu, sy'n debygol o droseddu, neu sy'n agored i niwed hefyd elwa o fynychu cwrs Prosiect Ffenics.

Mae'n herio agweddau presennol ac yn hyrwyddo meddwl annibynnol mewn pobl ifanc trwy ddefnyddio gweithgareddau'r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) i ddatblygu priodoleddau personol megis gweithio fel tîm, archwilio cyfyngiadau corfforol a meddyliol a hyrwyddo ac addysgu pobl ifanc am rôl y GTA.

Rhwng Hydref 13eg a 17eg, mynychodd disgyblion o'r ddwy ysgol amrywiaeth o sesiynau yng Ngorsaf Dân Llanbedr Pont Steffan, gan gymryd rhan mewn sesiynau ar osod ysgolion, gofalu am gleifion a gosod pibellau dŵr.  I gloi’r wythnos, cynhaliwyd arddangosiad i ddangos y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod yr wythnos, a chyflwynwyd tystysgrif i bob disgybl.

Prosiect Ffenics

Am ragor o wybodaeth ar y Prosiect Ffenics a sut i gyfeirio rhywun ato, cliciwch isod os gwelwch yn dda.

MWY O WYBODAETH




Erthygl Flaenorol