27.05.2025

Cynnal Noson Gwerthfawrogi Criw a Theulu yng Ngorsaf Dân Crucywel

Nos Fercher, 21 Mai, cynhaliodd Gorsaf Dân Crucywel ddigwyddiad Gwerthfawrogi Criw a Theulu, gan groesawu teulu a ffrindiau i ddathlu gyda'r criw yn ystod eu noson ymarfer.

Gan Rachel Kestin



Nos Fercher, 21 Mai, cynhaliodd Gorsaf Dân Crucywel ddigwyddiad Gwerthfawrogi Criw a Theulu, gan groesawu teulu a ffrindiau i ddathlu gyda'r criw yn ystod eu noson ymarfer.

Perfformiodd y criw orymdaith ac yna cynhaliwyd cyflwyniad gwerthfawrogi teuluoedd lle cafodd y criw a'u teuluoedd eu canmol am eu hymroddiad, eu dealltwriaeth a'u hymrwymiad i'r Gwasanaeth. Cafodd pob teulu fag o gynnyrch cigydd am ddim, a gyflenwyd yn lleol gan Cashells Butchers, ynghyd â thystysgrif.

Hefyd, yn ystod y noson cyflwynwyd tystysgrif i'r Rheolwr Criw Jamie Jones a'i ganmol am 30 mlynedd yn y Gwasanaeth.

Mae’r Rheolwr Criw Jones yn gweithio ochr yn ochr â'i fab y Rheolwr Criw Harri Jones, gan gyflenwi yng Ngorsaf Dân Crucywel tra hefyd yn rhedeg eu garej deuluol. Pan ddaw galwadau, maent yn cau eu garej nes iddynt ddychwelyd, gan ddangos y mesurau y maent yn eu cymryd yn rheolaidd i sicrhau bod criw Crucywel yn gallu ymateb i alwadau brys.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Rheolwr Criw Jamie Jones am ei ymrwymiad a'i ymroddiad parhaus i amddiffyn ei gymuned.

Dywedodd y Rheolwr Gorsaf Simon Prince:

"Roedd yn wych cwrdd â'r holl deuluoedd ac yn gyfle perffaith i bawb ddod at ei gilydd a dathlu. Mae'r criw a'u teuluoedd eisoes yn trafod beth y byddent yn hoffi ei wneud ar gyfer eu digwyddiad gwerthfawrogi teuluoedd nesaf. Diolch i bawb a ddaeth ac i Cashells Butchers am eu rhodd hael."



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf