12.12.2024

Datganiad i'r Wasg Lansio #LlosgiIAmddiffyn

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i #LosgiIAmddiffyn cefn gwlad Cymru yn ystod y tymor llosgi.

Gan Rachel Kestin



Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i #LosgiIAmddiffyn cefn gwlad Cymru yn ystod y tymor llosgi.

Gan gydnabod bod tân wedi bod yn rhan o ecoleg naturiol yr ucheldir a rhai rhannau o’r iseldir ers miloedd o flynyddoedd, a'i fod hefyd yn un o'r dulliau rheoli tir hynaf a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, rheoli hela ac, yn fwy diweddar, rheoli cadwraeth bywyd gwyllt, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i weithio ar y cyd â'u Gwasanaeth Tân lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Undebau i sicrhau eu bod yn llosgi'n gyfrifol ac yn ddiogel.

Gall ffermwyr a thirfeddianwyr losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin o 1 Hydref hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth ar ucheldir), ond rhaid iddyn nhw gael Cynllun Llosgi er mwyn sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel.

Fel rhan o'u hymgyrch Llosgi i Amddiffyn, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn atgoffa tirfeddianwyr o gyngor syml a fydd yn helpu i sicrhau llosgi cyfrifol:

  • Rhowch wybod ymlaen llaw i'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol er mwyn osgoi galwadau diangen a chriwiau’n cael eu danfon allan heb fod eisiau yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb os bydd llosgiad yn mynd allan o reolaeth.
  • Sicrhewch fod gennych ddigon o bobl ac offer i reoli'r tân.
  • Edrychwch ar gyfeiriad y gwynt a sicrhau nad oes unrhyw risg i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt.
  • Os collir rheolaeth ar dân, cysylltwch â'r gwasanaeth tân ar unwaith gan roi manylion am y lleoliad a sut mae cael mynediad yno.
  • Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn gofalu amdano neu heb ddigon o bobl yn ei reoli.
  • Sicrhewch bob amser fod tân wedi diffodd yn llwyr cyn i chi ei adael ac ewch i’w weld drannoeth i sicrhau nad yw wedi ailgynnau.

Dywedodd Iwan Cray, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru a Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

"Fel rheolwyr tir, rydych yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu ein cymunedau rhag effeithiau dinistriol tanau gwyllt. Mae eich tir a'ch bywoliaeth nid yn unig yn hanfodol i chi ond maent hefyd yn hanfodol i'n ecosystem ehangach ac i’r economi . "Rydym yn eich annog i weithredu strategaethau effeithiol i atal tanau gwyllt pan fyddwch yn llosgi eich tir. "Mae llosgi'ch tir mewn modd cyfrifol yn hanfodol i amddiffyn eich asedau, sicrhau diogelwch eich teulu a cheisio gwneud yn siŵr bod eich tir yn dal i gynhyrchu tra’ch bod hefyd yn parchu cefn gwlad ac yn chwarae eich rhan i ddiogelu ein hamgylchedd a chadw ein cymunedau'n ddiogel. “Gellir atal llawer iawn o danau gwyllt, ac mae ambell i beth bach y gallwn ei wneud er mwyn cyfyngu ar ba mor aml y maent yn digwydd a chyfyngu ar eu heffaith.”



Dywedodd Andrew Wright, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae'n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn parhau i gydweithio i greu tirwedd sy’n iachach, yn wytnach, ac â mwy o fioamrywiaeth yma yng Nghymru, gan wneud popeth allwn ni i ddiogelu'r adnodd gwerthfawr hwn ar gyfer y dyfodol. “Rydyn ni eisiau gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir er mwyn rhannu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r effaith mae tanau bwriadol a damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau. Rydyn ni’n deall bod llosgi dan reolaeth yn gallu cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy ac rydyn ni ar gael i roi cyngor am ddim am sut i wneud hyn yn ddiogel.”



Trwy weithio gyda'n cymunedau i rannu gwybodaeth, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio gwella dealltwriaeth o'r hyn y gall y Gwasanaeth ei wneud i atal tanau damweiniol rhag digwydd ac i gyfyngu ar y difrod y gallant ei wneud i'r amgylchedd.  

Gallwch ddysgu mwy am #LlosgiIAmddiffyn 2024 drwy fynd i #LosgiIAmddiffyn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â chael awgrymiadau diogelwch syml a negeseuon diogelwch yr ymgyrch i'w lawrlwytho a’u defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun. Gyda'n gilydd, gallwn atal tanau glaswellt ac amddiffyn ein cefn gwlad a Chymru. 

Cofiwch - os ydych allan yng nghefn gwlad ac yn gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw trwy alw 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf