Nid ar chwarae bach mae cyrraedd copa Everest - mynydd ucha’r byd - ac nid yw’n her y mae llawer o bobl yn fodlon mentro arni.
Nid yn unig mae Rhys Fitzgerald, Diffoddwr Tân Ar Alwad Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yng Ngorsaf Dân Cydweli, am ymgymryd â’r dasg hynod anodd hon, mae hefyd yn anelu at fod y person cyntaf i wneud hynny mewn cit diffodd tân llawn.
Fel rhan o’i hyfforddiant i ddringo’r 8848m i gopa Everest yn 2025, mae Rhys wedi gosod cyfres o ddigwyddiadau ac amcanion iddo’u cyflawni. Yn ogystal ag ymweld â’r Ganolfan Uchder yn Llundain i ymgyfarwyddo ag uchderau, bydd yn cymryd rhan yn her 10 y Fan, Tri Chopa Cymru, (Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan) a Her y Tri Chopa (Yr Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis - mynydd uchaf Ynysoedd Prydain). Bydd Rhys yn gwisgo cit diffodd tân llawn ar gyfer pob un o’r heriau hyn.
Yn ogystal, mae Rhys yn hunanariannu dringfa arall ar Ama Dablam, mynydd 6,182m o uchder yn Nhalaith Koshi yn Nepal, ym mis Hydref 2024 i baratoi ei hun ar gyfer dringfa olaf ei ymdrechion codi arian. Mae’n ymgymryd â’r her hon i helpu i hyrwyddo’r manteision y gall treulio amser yn yr awyr agored eu cael ar eich iechyd a’ch lles meddyliol a chorfforol, yn ogystal â chodi arian ac ymwybyddiaeth o dri achos teilwng. Mae Rhys wedi dewis cefnogi’r elusennau canlynol:
- Elusen y Diffoddwyr Tân - elusen sy'n darparu cymorth gydol oes i ddiffoddwyr tân sy’n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol, ac i’w teuluoedd.
- Mind - sy'n darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac ymgyrchoedd i bobl â phroblemau iechyd meddwl.
- The Nimsdai Foundation – sy'n gweithio i glirio sbwriel sy’n cael ei adael ar fynyddoedd yn yr Himalaya yn sgil teithiau blaenorol yn ogystal â chefnogi arwyr tawel y mynyddoedd, sef Porthorion Llwybr Base Camp Everest.
Bydd Rhys hefyd yn cyflawni dwy record byd fel rhan o'i anturiaethau trwy fod y person cyntaf i ddringo Ama Dablam ac Everest mewn cit diffodd tân llawn.
Wrth siarad am ei her, meddai Rhys: