Wrth siarad ar gymryd rhan yn y rali, dywedodd y diffoddwr tân Neil Hawkins:
"Mae'n anrhydedd i mi fod yn un o ddim ond pum beiciwr o Brydain sy'n cystadlu yn y categori beiciau modur.
Byddaf yn rasio yn y dosbarth Originals by Motul unwaith eto, lle mae reidwyr yn cwblhau'r digwyddiad llawn heb unrhyw gefnogaeth fecanyddol neu dîm, gan gynnal a chadw a thrwsio’u beiciau eu hunain bob nos ar ôl rasio.
Rali Dakar heb amheuaeth yw'r digwyddiad chwaraeon moduro anoddaf ar y ddaear. Mae rhai pobl yn dringo Everest, eraill yn hwylio o gwmpas y byd, ond i rasiwr oddi ar y ffordd, y Dakar yw'r prawf mwyaf eithafol. Mae'n gwthio sgìl, dygnwch, a phenderfyniad i'r eithaf, ac i mi, mae wedi bod yn freuddwyd gydol oes rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i'w gwireddu.
Er mai dyma fydd fy nhrydedd Rali Dakar, dyma fydd fy un gyntaf tra’n gwasanaethu gyda GTACGC, ac rwy'n hynod falch o gynrychioli'r Gwasanaeth a'i werthoedd ar lwyfan byd-eang.
Fe wnes i gystadlu yn gyntaf yn 2020, a phan ddychwelais yn 2021, gorffennais yn llwyddiannus yn y 37fed safle yn gyffredinol a 6ed yn y dosbarth Originals by Motul (heb gefnogaeth) - y ffordd fwyaf anodd o rasio Dakar. Ym mis Ionawr 2026, byddaf unwaith eto yn ymgymryd â'r her hon, y tro hwn fel aelod balch o GTACGC."