21.03.2024

Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn Diweddaraf

Ddydd Iau, 21 Mawrth, cynhaliwyd Seremoni Raddio a Gorymdaith i nodi Cwblhau’r Cwrs Hyfforddi gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ar gyfer y garfan ddiweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Amser Cyflawn.

Gan Lily Evans


Ddydd Iau, 21 Mawrth, cynhaliwyd Seremoni Raddio a Gorymdaith i nodi Cwblhau’r Cwrs Hyfforddi gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ar gyfer y garfan ddiweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Amser Cyflawn.


Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood y Gwasanaeth, yn gyfle i ddathlu ac i fyfyrio ar lwyddiannau anhygoel y 12 unigolyn - sy’n cael eu hadnabod gyda’i gilydd fel Carfan 01/24 - sydd wedi cwblhau eu cwrs trosi diffoddwyr tân Ar Alwad i ddiffoddwyr tân Amser Cyflawn yn ddiweddar, a hynny yng nghwmni eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Yn dilyn proses recriwtio helaeth lle cyflawnwyd amrywiaeth o heriau fel rhan o broses ddethol drylwyr, dechreuodd Carfan 01/24 ar eu cwrs preswyl wyth wythnos ar 25 Ionawr. Ers hynny, mae pob un ohonynt wedi datblygu’r sgiliau a’r galluoedd cychwynnol sydd eu hangen i gyflawni eu rolau newydd fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn.






Roedd y Seremoni’n cynnwys Gorymdaith y Recriwtiaid, pan ymunodd Gosgordd Faneri’r Gwasanaeth â nhw, ac Archwiliad o’r Recriwtiaid gan y Prif Swyddog Tân Roger Thomas, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Cynghorydd Gwynfor Thomas a’r Pennaeth Cyflenwi Hyfforddiant, Stuart Bate. Yna cynhaliwyd nifer o Arddangosfeydd Iard Ymarfer i ddangos y sgiliau ymateb brys y mae pob aelod o’r Garfan wedi’u datblygu yn ystod eu hyfforddiant, ac yn dilyn hynny cyflwynwyd y Tystysgrifau a’r Gwobrau.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf