25.02.2026

Diffoddwyr Tân yn Cwblhau Cwrs Gofal Brys Canolradd Newydd

Mae carfan o Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad dan hyfforddiant o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cwblhau Cwrs Canolradd Gofal Brys Cychwynnol newydd y Gwasanaeth yn llwyddiannus.

Gan Steffan John



Mae carfan o Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad Hyfforddai o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi cwblhau Cwrs Canolradd Gofal Brys Cychwynnol newydd y Gwasanaeth yn llwyddiannus.

Dyma’r grŵp cyntaf o fewn GTACGC i ymgymryd â’r rhaglen hyfforddi hwn, a ddatblygwyd i gryfhau gallu ymateb meddygol personél gweithredol y Gwasanaeth.



Mae’r Cwrs Canolradd yn rhoi sgiliau achub bywyd hanfodol i Ddiffoddwyr Tân, gan gynnwys:

  • Technegau adfywio
  • Defnydd diogel ac effeithiol o Ddiffibrilwyr Allanol Awtomataidd
  • Rheoli'r llwybr anadlu
  • Rheoli gwaedu trychinebus
  • Ystod o ymyriadau gofal brys craidd eraill



Mae'r cymwyseddau hyn wedi'u cynllunio i gefnogi Diffoddwyr Tân wrth ymateb i ddigwyddiadau sy'n cynnwys argyfyngau meddygol, gan sicrhau y gallant ddarparu gofal effeithiol ar unwaith cyn i griwiau ambiwlans neu weithwyr meddygol proffesiynol eraill gyrraedd.

I nodi cwblhau'r rhaglen, ymunodd y Prif Swyddog Tân Craig Flannery (pedwerydd o'r chwith yn y llun uchod) â'r recriwtiaid yn eu sesiwn hyfforddi olaf, gan gydnabod eu hymrwymiad a'u llongyfarch ar gyflawni'r garreg filltir bwysig hon.

Mae GTACGC yn parhau i fuddsoddi yn natblygiad ei Diffoddwyr Tân Ar Alwad, gan gydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth ddiogelu cymunedau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol