18.08.2025

Diffoddwyr Tân yr Ystafell Reoli yn Cynorthwyo Teulu o Ffrainc

Ym mis Mai 2025, cafodd y Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr alwad gan deulu o Ffrainc a oedd mewn trallod.

Gan Steffan John



Ym mis Mai 2025, cafodd y Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n gyfrifol am ddelio â galwadau brys ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), alwad gan deulu o Ffrainc a oedd mewn trallod.

Diffoddwr Tân yr Ystafell Reoli Chris Morris a gafodd yr alwad 999 gyntaf gan siaradwr Ffrangeg a oedd yn ymweld ag Aberystwyth, ac a oedd yn ceisio rhoi gwybod bod ei fab wedi cael anaf i'w ben.  Er nad oedd Chris yn gallu deall y galwr bob gair oherwydd y rhwystr ieithyddol, uwchgyfeiriodd y sefyllfa yn gyflym i'w oruchwylydd, y Rheolwr Criw Caroline Hughes.

Diolch i'r cydweithio esmwyth rhwng Chris a Caroline, bu modd i’r tîm ymateb yn gyflym ac yn effeithiol.  Roedd Caroline, sy'n siarad Ffrangeg yn rhugl, yn gallu cyfathrebu'n uniongyrchol â'r galwr a chanfu bod y plentyn wedi cael archoll ar ei ben.  Yna fe wnaeth Caroline anfon criw allan o Orsaf Dân Aberystwyth, a roddodd gymorth cyntaf i'r plentyn a chynghori ei rieni i fynd i’r ysbyty lleol am ragor o driniaeth.




Y Rheolwr Criw Caroline Hughes gyda'r Diffoddwr Tân yr Ystafell Reoli Chris Morris.



Er nad yw'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymateb i argyfyngau meddygol fel hyn fel arfer, mae'r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod yn hyblyg, cyfathrebu a gwaith tîm wrth sicrhau diogelwch y cyhoedd.  Mae llinellau cyfieithu ar gael yn rhwydd i Ddiffoddwyr Tân y Ganolfan Reoli ar y Cyd eu defnyddio, ond oherwydd bod gan Caroline sgiliau Ffrangeg a’i bod wedi meddwl yn sydyn, roedd modd i’r teulu gael tawelwch meddwl ar unwaith yn eu hiaith eu hunain – cysur holl bwysig ar adeg llawn straen.

Dyma'r ail dro i Caroline gefnogi galwr Ffrangeg, ar ôl iddi gynorthwyo gyrrwr lori o Ffrainc ychydig flynyddoedd yn ôl.  Mae'r stori hon yn ein hatgoffa mewn ffordd bwerus bod ein staff yn mynd yr ail filltir mewn cynifer o ffyrdd – nid yn unig o ran ymateb brys, ond hefyd wrth gynnig tawelwch meddwl, tosturi ac eglurder pan fydd eu hangen fwyaf.

Erthygl Flaenorol