07.01.2025

Digwyddiad: Achub Ceffyl yn Hwlffordd

Ddydd Llun, Ionawr 6ed, ymatebodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Hwlffordd i ddigwyddiad ym Mhont Myrddin yn Hwlffordd.

Gan Steffan John



Am 2.05yp ddydd Llun, Ionawr 6ed, ymatebodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Hwlffordd i ddigwyddiad ym Mhont Myrddin yn Hwlffordd.

Ymatebodd y criw i ferlen Shetland oedd wedi mynd yn sownd mewn nant, gyda dŵr dros goesau’r ceffyl.  Er nad oedd yr anifail mewn trallod, roedd angen ei achub yn frys oherwydd y tymheredd oer ac na fyddai’r ceffyl yn debygol o oroesi heb unrhyw ymyrraeth.

Gyda chymorth yr RSPCA, defnyddiodd tîm achub anifeiliaid y criw eu harbenigedd a’u hoffer arbenigol i achub y ceffyl yn llwyddiannus o’r nant.  Roedd y ceffyl yn ddiogel ac yn iach a chafodd ei ddychwelyd i’w pherchennog.  Gadawodd y criw am 3.25yp.



Timau Achub Anifeiliaid Arbenigol

Ar hyn o bryd mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Dimau Achub Anifeiliaid arbenigol sydd wedi'u lleoli yng Ngorsafoedd Tân Pontardawe, Caerfyrddin, Machynlleth a Rhaeadr Gwy, ac maent yn defnyddio amrywiaeth o offer arbenigol i achub anifeiliaid.




Gwnewch Wahaniaeth a Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf