Am 9.24yb ddydd Iau, Awst 29ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman a Chaerfyrddin eu galw i ddigwyddiad yn Nrefach.
Ymatebodd criwiau i un ceffyl mewn oed, yn mesur tua 16 dyrnfedd o uchder, a oedd wedi disgyn ac wedi bod ar y llawr am nifer o oriau. Mewn cydweithrediad â pherchennog y ceffyl a’r milfeddyg a oedd hefyd yn bresennol, cynlluniodd criwiau a llwyddo i gael y ceffyl yn ôl ar ei draed gan ddefnyddio tractor. Yna rhoddwyd y ceffyl yng ngofal y perchennog a’r milfeddyg.
Gadawodd y criwiau am 12.31yp.