Am 8.55yb ddydd Mawrth, Tachwedd 19eg, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Pontardawe ei galw i ddigwyddiad ym Mhontrhydyfen yng Nghastell-nedd.
Ymatebodd y Tîm Achub gyda Rhaffau Lefel 3 o’r Orsaf Dân yn dilyn adroddiadau bod ci yn gaeth ar silff gul ar ôl cwympio ym Mhontrhydyfen. Wrth gyrraedd, sefydlodd y tîm yn gyflym fod y ci, o’r enw Terry, yn sownd tua 50 troedfedd islaw ac angen ei achub.
Er gwaethaf amodau anodd, llwyddodd y tîm i sefydlu System Achub Lefel 3 effeithiol a gostwng Diffoddwr Tân yn ofalus i’r ci. Cafodd Terry ei annog i fynd i mewn i’r bag achub gan ddefnyddio ei hoff ddanteithion ac yna cafodd ei gludo i ddiogelwch. Er iddo wedi cael ysgytiad, roedd Terry heb gael anaf, ac roedd ei berchennog yn hynod ddiolchgar am gymorth criw Gorsaf Dân Pontardawe a’r Gwasanaeth Tân ac Achub.