25.11.2024

Digwyddiad: Achub o Lifogydd yn Henllan

Ddydd Sadwrn, Tachwedd 23ain, gwnaeth criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin, Aberystwyth, Castellnewydd Emlyn, Llandysul ac Aberteifi achub ddau glaf ac un ci yn Henllan.

Gan Steffan John



Am 4.30yp ddydd Sadwrn, Tachwedd 23ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin, Aberystwyth, Castellnewydd Emlyn, Llandysul ac Aberteifi eu galw i ddigwyddiad yn Henllan.

Ymatebodd y criwiau, gan gynnwys timau cerdded trwy ddŵr, i ddau glaf ac un ci a oedd yn sownd mewn cae dan ddŵr.  Ar ôl sawl ymgais aflwyddiannus i achub eu hun, gwnaed galwad 999 wrth iddi dywyllu.  Sefydlodd criwiau system diogelwch a defnyddiwyd sled diogelwch, llinellau taflu a goleuadau i ddod â’r cleifion i ddiogelwch.

Gadawodd y criwiau am 7.17yh.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf