Ddydd Gwener, Rhagfyr 6ed, achubodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru un claf o gerbyd oedd yn sownd mewn dŵr llifogydd. Cafodd y claf ei achub gan dîm cerdded trwy ddŵr.
Gyda rhybuddion tywydd ar waith ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru dros y penwythnos, mae’r Gwasanaeth yn annog pawb i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio yn yr amodau hyn. Cadwch i ffwrdd o afonydd chwyddedig ac ardaloedd arfordirol a pheidiwch â gyrru na cherdded trwy ddŵr llifogydd. Yn aml, gall dŵr llifogydd fod yn ddyfnach ac yn llifo’n gyflymach nag y mae’n ymddangos.
Er bod y dŵr yn y llun isod yn ymddangos yn dawel a’n fas, roedd tua 2.5 troedfedd o ddyfnder mewn mannau.
Diogelwch ar y Ffyrdd
Er mwyn sicrhau eich bod yn cadw'n ddiogel, mae'n bwysig paratoi ar gyfer yr heriau sy'n dod i ganlyn tywydd gwlyb a gwyntog.
MWY O WYBODAETH
