29.12.2025

Digwyddiad: Awyren Ysgafn yn Cwymplanio yn Nhalgarth

Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 27ain, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Talgarth a Chrucywel i awyren ysgafn a oedd wedi cwymplanio mewn yn Nhalgarth.

Gan Steffan John



Am 11.38yb, ddydd Sadwrn, Rhagfyr 27ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Talgarth a Chrucywel i ddigwyddiad yn Nhalgarth.

Ymatebodd y criwiau ar ôl i awyren ysgafn cwymplanio mewn cae.  Bu’r criwiau’n sefydlogi’r awyren a rhyddhau peilot yr awyren.  Defnyddiodd y criwiau sefydglogwyr Stabfast ac offer torri hydrolig.

Llwyddodd y criwiau i ryddhau’r claf, a chafodd ei gludo i Ambiwlans Awyr cyn cael ei gludo i’r ysbyty.  Roedd y gwaith o ryddhau’r claf yn arbennig o heriol oherwydd pibellau tanwydd yn rhedeg drwy siasi’r awyren a thanwydd wedi’i storio yn ei hadenydd.

Roedd angen ymateb amlasiantaeth i’r digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Ambiwlans Awyr hefyd yn bresennol.

Gadawodd y criwiau am 1.52yp.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol