13.05.2025

Digwyddiad: Blwch Da Byw wedi'i Droi Drosodd ar Gylchfan Pont Abraham

Ddydd Llun, Mai 12eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman a Llanelli eu galw i ddigwyddiad ar hyd yr M4, am y gorllewin, ger cylchfan Pont Abraham.

Gan Steffan John



Am 10.38yb, ddydd Llun, Mai 12eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman a Llanelli eu galw i ddigwyddiad ar hyd yr M4, am y gorllewin, ger cylchfan Pont Abraham.

Ymatebodd y criwiau i wrthdrawiad ar y ffyrdd yn cynnwys un tryc a oedd yn tynnu un blwch da byw.  Roedd y blwch da byw, a oedd yn cludo tair buwch, wedi troi drosodd ac ar ei ochr.  Bu’r criwiau yn rhan o’r gwaith o wneud y lleoliad yn ddiogel ac yn cynorthwyo i drosglwyddo’r gwartheg i drelar sbâr a oedd wedi’i gludo i’r lleoliad.

Gadawodd y criwiau am 11.27yb.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf