Am 5.09yp, ddydd Sadwrn, Mawrth 21ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin, Dyffryn Aman a Phontardawe i ddigwyddiad ger Heol Gwrhyd ym Mhontardawe.
Ymatebodd y criwiau i gaseg feichiog, tua 14 llaw o hyd, a oedd wedi bod yn sownd dros nos hyd at ben ei chlun mewn mwd. Lleolwyd y ceffyl mewn cors oddi ar ffordd fynyddig.
Cafodd y criwiau gymorth gan berchennog y ceffyl, eu cydweithwyr a milfeddyg lleol. Defnyddiodd y criwiau gwisgoedd sych, un mat cors, un lliain gleidio, stropiau, ffyn fugail, rhaffau pwrpas cyffredinol, goleuadau a thractor i ryddhau'r ceffyl yn llwyddiannus a'i gosod ar y lliain gleidio. Yna cafodd y lliain ei chysylltu â'r tractor er mwyn tynnu’r ceffyl sawl metr i ffwrdd o'r ardal gors beryglus.
Gadawodd y criwiau am 7.22yh.