02.04.2025

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Achub Ceffyl o Gors yng Nghwmllynfell

Ddydd Mawrth, Ebrill 1af, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Pontardawe a Dyffryn Aman eu galw i ddigwyddiad yng Nghwmllynfell.

Gan Steffan John



Am 5.57yp, ddydd Mawrth, Ebrill 1af, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Pontardawe a Dyffryn Aman eu galw i ddigwyddiad yng Nghwmllynfell.

Ymatebodd y criwiau i un ceffyl, yn mesur tua 16 llaw o uchder, a oedd yn sownd mewn tir corsiog.  Defnyddiodd y criwiau offer cerdded trwy ddŵr, offer achub anifeiliaid a goleuadau i achub y ceffyl o’r gors.  Cafodd y criwiau eu cynorthwyo gan ffermwr lleol a ddaeth â pheiriant turio i helpu achub y ceffyl.  Gadawodd y criwiau am 8.17yh.



Galluoedd Achub Anifeiliaid Arbenigol

Ar hyn o bryd mae gan GTACGC Dimau Achub Anifeiliaid arbenigol wedi'u lleoli yng Ngorsafoedd Tân Pontardawe, Caerfyrddin, Machynlleth a Rhaeadr sydd wedi'u hyfforddi i ddefnyddio offer achub anifeiliaid arbenigol i achub amrywiaeth o anifeiliaid.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf