03.02.2025

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Achub Ceffyl yn Llanbedr Pont Steffan

Am 3.58yp ddydd Sul, Chwefror 2ail, ymatebodd y criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan i geffyl wedi cwympo yng Nghwmann yn Llanbedr Pont Steffan.

Gan Steffan John



Am 3.58yp ddydd Sul, Chwefror 2ail, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan eu galw i ddigwyddiad yng Nghwmann yn Llanbedr Pont Steffan.

Ymatebodd y criwiau i geffyl gwryw, yn mesur tua 13 llaw, a oedd wedi mynd yn sownd mewn ffos ar ei gefn.  Llwyddodd y criwiau i achub y ceffyl gan ddefnyddio strapiau, sglefr, bachau a pheiriannau fferm.  Yna, gwnaeth y criwiau cludo’r ceffyl o’r cae i’w stabl lle’r oedd milfeddyg yn gallu gofalu amdano.  Gadawodd y criwiau am 5.45yp.



Sgiliau Achub Anifeiliaid Arbenigol 

Ar hyn o bryd mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Dimau Achub Anifeiliaid arbenigol sydd wedi'u lleoli yng Ngorsafoedd Tân Pontardawe, Caerfyrddin, Machynlleth a Rhaeadr Gwy, ac maent yn defnyddio amrywiaeth o offer arbenigol i achub anifeiliaid.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf