Am 7.49yb, ddydd Sul, Mai 4ydd, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Pontardawe ei galw i ddigwyddiad ym Mharc Cymunedol Chwarel Rosehill yn Abertawe.
Ymatebodd y criw yn dilyn adroddiadau am un ci oedd yn sownd ar ymyl clogwyn serth. Anfonwyd Tîm Achub Rhaff Lefel 3 i leoli'r ci a'i achub yn ddiogel, llwyddodd aelodau'r criw i achub y ci, o'r enw Daisy, a'i hailuno â'i pherchennog.
Gadawodd y criw am 10.18yb.