18.02.2025

Digwyddiad: Fan ar Dân yn Hwlffordd

Ddydd Llun, Chwefror 17eg, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Hwlffordd ei galw i ddigwyddiad yn Hawthorn Rise yn Hwlffordd.

Gan Steffan John



Am 7.49yb, ddydd Llun, Chwefror 17eg, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Hwlffordd ei galw i ddigwyddiad yn Hawthorn Rise yn Hwlffordd.

Ymatebodd y criw i un cerbyd modur preifat a oedd ar dân.

Defnyddiodd aelodau'r criw un set o offer anadlu, ewyn ac offer bach i ddiffodd y tân.  Gadawodd y criw am 8.39yb.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf