19.02.2026

Digwyddiad: Gwrthdrawiad ar y Ffordd yng Nghrughywel

Ddydd Mercher, Chwefror 18fed, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Crughywel a Thalgarth i wrthdrawiad ar hyd yr A40 yng Nghrughywel.

Gan Steffan John



Am 6.22yh, ddydd Mercher, Chwefror 18fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Crughywel a Thalgarth i ddigwyddiad ar hyd yr A40 yng Nghrughywel.

Ymatebodd y criwiau i wrthdrawiad traffig yn cynnwys un cerbyd modur preifat ac un tractor a threlar yn cludo gwair.  Achosodd y gwrthdrawiad ddifrod sylweddol i'r ddau gerbyd, gydag olwyn ochr allanol y tractor yn datgysylltu o ganlyniad i'r trawiad.  Nid oedd yna unrhyw gleifion yn sownd yn naill gerbyd.

Gwnaeth y criwiau rhoi gofal meddygol a sicrhau bod y cerbydau a’r lleoliad yn ddiogel.  Defnyddiwyd y criwiau offer bach, golau, offer gwrthdrawiadau a gronynnau.

Roedd angen ymateb aml-asiantaeth i’r digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys a’r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd yn mynychu.  Gadawodd criwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub am 7.43yh.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf