16.01.2026

Digwyddiad: Gwrthdrawiad Traffig ar y Ffyrdd yng Nghemaes

Ddydd Llun, Ionawr 12fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Machynlleth a'r Drenewydd i ddigwyddiad ar hyd yr A489 ger Cemaes.

Gan Steffan John



Am 9.33yb, ddydd Llun, Ionawr 12fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Machynlleth a'r Drenewydd i ddigwyddiad ar hyd yr A489 ger Cemaes.

Ymatebodd y criwiau i wrthdrawiad traffig ar y ffyrdd yn cynnwys dau gerbyd nwyddau trwm ac un cerbyd modur preifat.  Cafodd tri chlaf eu trin a’u cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans ffordd.  Roedd y criwiau'n gyfrifol am wneud y cerbydau a'r lleoliad yn ddiogel.

Roedd angen ymateb aml-asiantaeth ar gyfer y digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans ac Adran Priffyrdd yr Awdurdod Lleol hefyd yn bresennol.

Gadawodd y criwiau'r lleoliad am 1.02yp.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol