23.02.2026

Digwyddiad: Gwrthdrawiad yn Arwain at Dân Cerbyd yn Aberhonddu

Ddydd Sadwrn, Chwefror 21ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberhonddu a Thalgarth i ddigwyddiad ar hyd yr A40 ger Aberhonddu.

Gan Steffan John



Am 1.16yb, ddydd Sadwrn, Chwefror 21ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberhonddu a Thalgarth i ddigwyddiad ar hyd yr A40 ger Aberhonddu.

Ymatebodd y criwiau i wrthdrawiad ar y ffyrdd rhwng un cerbyd modur preifat ac un cerbyd gwersylla.  Roedd y cerbyd modur preifat wedi gwrthdaro â’r cerbyd gwersylla llonydd a achosodd dân.  Defnyddiodd y criwiau dwy set o gyfarpar anadlu, pum chwistrell olwyn piben, offer bach a golau i ddiffodd y tân.  Nid oedd yna unrhyw gleifion yn sownd nac wedi’u hanafu yn y naill gerbyd na’r llall.  Dinistriwyd y ddau gerbyd gan y tân.

Gadawodd y criwiau am 2.56yb.






Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol