Am 3:45yp ddydd Sadwrn, 31 Awst, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Trefaldwyn eu galw i ddigwyddiad yn Ffordun, y Trallwng.
Fe wnaeth aelodau'r criw ymateb i goelcerth oedd wedi mynd allan o reolaeth, gyda'r tân yn lledu ar draws llethr cyfagos.
Defnyddiodd aelodau'r criw un jet olwyn pibell i ddiffodd y tân, gyda’r dŵr yn cael ei gymryd o gyflenwad dŵr agored lleol. Llosgwyd ardal o dir prysg, tua 25m x 40 metr o faint. Gadawodd y criw y safle am 5.07yp.