01.05.2025

Digwyddiad: Tân Cerbyd Amaethyddol yng Ngelli Aur

Ddydd Mercher, Ebrill 30ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman, Y Tymbl a Phontarddulais eu galw i ddigwyddiad yng Ngelli Aur ger Caerfyrddin.

Gan Steffan John



Am 6.37yh, ddydd Mercher, Ebrill 30ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman, Y Tymbl a Phontarddulais eu galw i ddigwyddiad yng Ngelli Aur ger Caerfyrddin.

Ymatebodd y criwiau i un cerbyd amaethyddol a oedd ar dân a ger eiddo domestig.  Llwyddodd y criwiau i atal y tân rhag lledu i’r eiddo a’i diffodd gan ddefnyddio dwy set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben ac ewyn.

Dinistriwyd y cerbyd yn llwyr gan y tân ac achoswyd mân ddifrod gan wres i’r eiddo cyfagos. Gadawodd y criwiau'r lleoliad am 9.57yh.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf