Am 8yh, ddydd Iau, Chwefror 13eg, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberystwyth ei galw i ddigwyddiad yn Nhrefechan yn Aberystwyth.
Ymatebodd y criw i dân yn effeithio ar ddau gerbyd modur preifat. Defnyddiodd aelodau’r criw ddwy chwistrell olwyn piben ac un set o offer anadlu i ddiffodd y tân. Ar ôl diffodd y tân, parhaodd aelodau’r criw i huddo’r ardal. Dinistriwyd un o’r cerbydau’n llwyr gan y tân a difrodwyd yr ail gerbyd yn sylweddol.
Gadawodd y criw am 8.54yh.
Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn
Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.