30.09.2024

Digwyddiad: Tân Cerbyd yn Nrefach

Am 1.56yp ddydd Sul, Medi 29ain, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Pont-iets ei galw i ddigwyddiad ar hyd Heol Caegwyn yn Nrefach.

Gan Steffan John



Am 1.56yp ddydd Sul, Medi 29ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Pont-iets ei galw i ddigwyddiad ar hyd Heol Caegwyn yn Nrefach.

Ymatebodd y criw i un cerbyd a oedd ar dân wrth iddynt gyrraedd.  Defnyddiodd y criw un cyfarpar anadlu, dau chwistrell olwyn piben, un camera delweddu thermol a thorwyr a lledaenwyr i ddiffodd y tân.  Gadawodd y criw am 2.59yp.

Llun gan Gwyn Edwards.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf