Am 4.06yb ddydd Mawrth, 24 Mawrth, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Cydweli, Pont-iets, Llanelli, Caerfyrddin a Phort Talbot eu galw i ddigwyddiad ar Heol Fair yng Nghydweli.
Ymatebodd criwiau i dân mewn eiddo domestig, canol teras. Roedd y tân wedi'i leoli ar drydydd llawr yr eiddo.
Defnyddiodd criwiau wyth set offer anadlu, dwy jet olwyn pibell, dwy bibell 45mm, pedwar camera delweddu thermol ac offer bach i ddiffodd y tân. Cefnogwyd y criwiau gan bresenoldeb peiriannau tanc dŵr symudol o Orsafoedd Tân y Tymbl a Phort Talbot, yn ogystal â pheiriant ag ysgol drofwrdd awyr o Orsaf Dân Treforys.
Cafodd rhai eiddo cyfagos eu gwacáu a chynghorwyd preswylwyr eraill i aros dan do tra bod y digwyddiad yn parhau. Ar ôl i'r tân gael ei ddiffodd, ymwelodd Diffoddwyr Tân ag eiddo cyfagos i roi gwybodaeth a chyngor diogelwch tân.
Gadawodd y criwiau’r safle am 1.45yp.